Chwilio Cyflym Sebra
 

Cynhyrchwyd y Cyfeiriadur gan Wasanaeth Celf Conwy, sy'n rhan o Adran Dysgu Gydol Oes, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Derbyniwyd cefnogaeth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Mae Gwasanaeth Celfyddydau Conwy yn hyrwyddo a chyflwyno digwyddiadau a chynlluniau celf trwy'r sir. Mae'r rhain yn cynnwys rhaglenni arddangosfeydd yn llyfrgelloedd Bae Colwyn a Llandudno, cynllun dawns gyfoes Migrations a Gwyl Gorawl Gogledd Cymru, ynghyd â gweithdai i ysgolion a gweithgareddau gwyliau i blant.

Gall y gwasanaeth gynnig cyngor ac arweiniad i unigolion a grwpiau'r ardal sydd â diddordeb mewn cynlluniau celf, er enghraifft cyngor ar ffynonellau arian. Trwy gyfeiriadur Sebra byddwn nawr yn gallu darparu rhestr o artistiaid lleol ar gyfer cynlluniau penodol. Gobeithiwn y bydd hyn o ddefnydd i grwpiau lleol ond hefyd y bydd o ryw fantais i artistiaid proffesiynol wrth hyrwyddo eu gwaith.

Mae'r Gwasanaeth Celf yn darparu grantiau hefyd. Mae ein hadnoddau ariannol yn gyfyng ac ar hyn o bryd rydym ond yn darparu grantiau i sefydliadau fel Oriel Mostyn ac Academi Frenhinol Gymreig, sy'n cadw man celfyddydau sylweddol neu a phresenoldeb sylweddol yn y sir. Fodd bynnag, yn ystod 2006 gobeithiwn allu cynnig grantiau bach datblygu celf ar gyfer cynlluniau celf gwreiddiol. Bydd manylion ar wefan Conwy: www.conwy.gov.uk/celf