Fe gewch ynddo fanylion
am artistiaid a sefydliadau celf.
Mae'r Cyfeiriadur wedi'i rannu
yn Grefftau, Celfyddydau Perfformiadol,
Celfyddydau Gweledol, Cerdd a
Llenyddiaeth.
Chwilio
Neu gallwch chwilio mewn nifer
o feysydd h.y. lleoliad, artistiaid,
cyfrwng (e.e. crefft) neu yn Allweddair.
Trwy ddewis un, dau neu dri o'r
dosbarthiadau hyn gallwch chwilio
mor eang neu gyfyng ag a ddymunwch.
Esiampl
1
Os ydych am gael manylion yr
holl artistiaid neu sefydliadau
celf sydd ym Metws y Coed sy'n
ymwneud â'r celfyddydau
perfformiadol:
Clicio ar Fetws y Coed yn y
blwch lleoliad,
Clicio ar y botwm
perfformio.
Fe gewch restr o'r holl artistiaid
sy'n y cyfeiriadur sy'n cyfarfod
y gofynion hyn.
Esiampl
2 Os ydych am ganfod artist
neu sefydliad sy'n arbenigo
mewn aml gyfrwng, teipio aml
gyfrwng yn y blwch allweddair.
Ymwadiad
Gwnaeth Gwasanaeth Celfyddydau
Conwy ymdrech resymol i sicrhau
bod unrhyw wybodaeth ynghylch
unigolion, cwmnïau, a chyrff
sy'n ymddangos yn y Cyfeiriadur
hwn mor gywir â chyfoes
a phosibl. Dylech gofio y seilir
yr wybodaeth a geir yn y Cyfeiriadur
i raddau helaeth ar yr wybodaeth
a gafwyd gan yr unigolion, cwmnïau
a chyrff eu hunain ac nid yw Gwasanaeth
Celfyddydau Conwy yn derbyn unrhyw
gyfrifoldeb ynghylch cywirdeb
yr wybodaeth a gafwyd. Ni all
Gwasanaeth Celfyddydau Conwy gynnig
unrhyw warant (datganiad na goblygedig)
ynghylch cywirdeb, dibynadwyedd
na chyfanrwydd yr wybodaeth a
geir yn y Cyfeiriadur.
Nid yw'r ffaith fod unigolion,
cyrff neu gwmnïau wedi'u
cynnwys yn y Cyfeiriadur yn golygu
fod Gwasanaeth Celfyddydau Conwy
yn argymell na chymeradwyo'r unigolion,
cwmnïau na chyrff hynny nac
unrhyw wasanaethau na chynnyrch
yn gysylltiedig a hwy. Nid yw'r
ffaith fod gwybodaeth yn eu cylch
wedi'i gynnwys yn dangos nac awgrymu
y byddant o ansawdd na safon addas
ar gyfer unrhyw bwrpas arbennig.
Ni ellir dal Gwasanaeth Celfyddydau
Conwy yn gyfrifol am unrhyw golled,
difrod nac anhwylustod (pa fodd
bynnag y cafodd ei achosi) o ganlyniad
i unrhyw gamwybodaeth, camgymeriadau
neu'r hyn allai fod wedi'i adael
allan o'r wybodaeth yn y Cyfeiriadur.