Chwilio Cyflym Sebra
 

Croeso i Sebra, cyfeiriadur celfyddydau Conwy. Mae'n cyflwyno artistiaid a sefydliadau celf sy'n bodoli neu'n darparu gwasanaeth yn y sir - ac mae honno'n rhestr sylweddol ac amrywiol dros ben.

Yn y cyfeiriadur hwn, mae pobl sy'n ymwneud â bron pob math o weithgaredd creadigol gan gynnwys paentwyr, crochenwyr, cerflunwyr, cerddorion, DJs, dawnswyr, actorion, dramodwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, artistiaid cyfryngol newydd, ysgrifenwyr, beirdd ac adroddwyr storïau. Mae'r sefydliadau'n amrywio o sefydliadau proffesiynol mawrion i grwpiau cymunedol bychain.

Nid yw Sebra yn argymell nac yn gwerthuso'r rhai sydd wedi eu cynnwys yma, ei dasg yw cydgasglu gwybodaeth berthnasol am artistiaid a sefydliadau celf mewn un adnodd hawdd ei ddefnyddio. Ac mae gennych ddewis o dros 360 ohonynt!

Mae gan Conwy etifeddiaeth artistig hir ac enwog yn yr ieithoedd Cymraeg a Saesneg - daeth artistiaid o ledled Ewrop i'r sir mor bell yn ôl â diwedd y 19G i baentio a darlunio'r tirlun o amgylch Betws y Coed, er enghraifft. Ond, bydd y cyhoeddiad hwn o ddefnydd i Ogledd Cymru a thu hwnt, ar gyfer unrhyw un sydd eisiau ymwneud â'r gymuned greadigol cynyddol fywiog a lliwgar ac o bwys economaidd.

Cofiwch, os bydd arnoch angen gwybodaeth mewn print, yna gallwch brynu copi wedi'i argraffu o Sebra mewn llyfrgelloedd a galerïau neu cysylltwch â ni.

Rydym yn awyddus i'r Cyfeiriadur aros yn gyfredol. Gall artistiaid sydd eisoes yn y Cyfeiriadur ddiweddaru eu gwybodaeth yn rheolaidd - cliciwch ar aelodau uchod. Neu, os ydych yn artist neu'n cynrychioli grwp o artistiaid sy'n gweithio neu'n byw yng Nghonwy, ac nad yw eich manylion yn y Cyfeiriadur, yna gallwch ychwanegu gwybodaeth amdanoch chi eich hun neu eich sefydliad celf - cliciwch ar cofrestr uchod.